Ar y tudalennau canlynol fe gewch wybodaeth am gymuned Treuddyn, ein hysgolion, ein heglwysi a'n capeli, cyfleusterau cymunedol, newyddion lleol a manylion am ddigwyddiadau lleol.
AM GYNGOR CYMUNED TREUDDYN
Mae Cyngor Cymuned Treuddyn yn un o 735 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Dyma’r haen o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl.
​
Mae gan gynghorau cymuned a thref y sgôp i ddarparu llawer o wasanaethau, yn dibynnu ar faint y gymuned y maent yn ei chynrychioli a’u cyllideb. Mae enghreifftiau o wasanaethau a ddarperir gan gynghorau cymuned a thref yn cynnwys:
​
-
goleuadau stryd
-
arwyddion gwybodaeth gyhoeddus a hysbysfyrddau
-
seddau cyhoeddus a llochesi bysiau
-
cofebau rhyfel
-
cyfleusterau hamdden
Mae cynghorau cymuned a thref yn gweithio'n agos gyda'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol yn yr ardal, gan gynrychioli buddiannau eu cymunedau. Gallant hefyd weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill (gan gynnwys cynghorau cymuned neu dref eraill yn yr ardal) i ddarparu gwasanaethau. Trwy gynnig cymorth, gan gynnwys cyllid, offer neu adeiladau, gall cynghorau cymuned a thref hefyd helpu cyrff eraill i ddarparu gwasanaethau, megis gofal plant, gwasanaethau i'r henoed, mentrau amgylcheddol a gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon.
​